Mae Waunifor wedi’i leoli rhwng pentrefi Cymreig bach Maesycrugiau a Llanfihangel-Ar-Arth, yng nghanol Dyffryn Teifi, ymhlith bryniau gwyrdd a dyffrynnoedd coediog Gorllewin Cymru. Mae amrywiaeth eang o atyniadau a gweithgareddau yn yr ardal.
Yr Arfordir a'r Traethau
Mae Waunifor hanner awr yn y car o arfordir hyfryd Bae Ceredigion gyda thraethau heb eu difa (Cei Newydd, Llangrannog, Tresaith, Penbryn, Mwnt, Aberporth), y llwybr arfordirol a threfi ac aneddiadau harbwr cyfareddol. Mae’r traethau glân heb eu hail yn hyfryd i ymweld â hwy trwy gydol y flwyddyn. Mae traethau Bae Caerfyrddin a Sir Benfro o fewn cyrraedd rhwydd.
Atyniadau (lleol i Waunifor)
Rheilffordd Stêm Dyffryn Teifi, Henllan: Teithiwch ar locomotifau stêm drwy’r dydd am yr un pris. Digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ar gyfer Calan Gaeaf, Nadolig a’r Pasg. Taith drên ar raddfa fach.
Byd Natur Pant Glas, Rhos, Llandysul: Cyfle i gwrdd â’r tylluanod a’r hebogau, ymuno yn yr arddangosfeydd, mwynhau hwyl y ffuredau, gweld sut mae sidan yn cael ei wneud, gwylio’r gwenyn mêl ar waith.
Gerddi Norwood, Llanllwni: Gardd 3 erw gyfareddol gydag ystafelloedd te.
Melin Wlân Rock Mill, Capel Dewi: Melin restredig Gradd II.
Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre: Amgueddfa flaenllaw yn archwilio’r diwydiant gwlân a oedd unwaith yn ddiwydiant ffyniannus yng Nghymru.
Mwyngloddiau Aur Dolaucothi Pumsaint: Mwynglawdd aur sy’n berchen i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Teithiau tywysedig dan ddaear o’r gweithfeydd ac arddangosfa ar brofiad Aur.
Plasty a Gerddi Llanerchaeron, Ciliau Aeron, ger Aberaeron: Ystâd fonedd Gymreig o’r ddeunawfed ganrif yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gynlluniwyd ac a adeiladwyd gan John Nash gyda dwy ardd lysiau muriog. Gweithgareddau trwy gydol yr haf.
Fferm Fêl Cei Newydd: Yr arddangosfa wenyn fwyaf yng Nghymru wedi’i lleoli mewn hen gapel, gyda chyflwyniad clyweled ar fywyd y gwenyn.
Canolfan Fforest Law Felinwynt: Tŷ trofannol bach gyda gloÿnnod byw.
Parc Fferm Arfordirol Aberteifi: Fferm fechan gyda sw, ardal chwarae a chaffi mawr.
Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi, Cilgerran: Gwarchodfa ddeniadol gyda chaffi tŷ gwydr a siop roddion. Llwybr dyfrgwn, byfflos dŵr, moch daear a llwybr wiwerod.
Caer Oes Haearn Castell Henllys, Crymych: Dyblygiad o gaer Oes Haearn wedi'i adeiladu ar safle hynafol.
Gardd Fotaneg Genedlaethol, ger Caerfyrddin: Gardd 568 erw gyda gerddi muriog, nodweddion addurnol, Tŷ Gwydr Mawr, gardd Japaneaidd a fferm i blant.
Syniadau Eraill:
Os nad ydych chi’n mwynhau eistedd ar y traeth yna mae amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored i chi roi cynnig arnynt.
Canŵio: Mae Padlwyr Llandysul yn cynnig caiacio, canŵio, dringo, cerdded ceunant ac arforgampau. Hwylio a Chaiacio ar y Môr; Wedi’i leoli ar draeth Cei Newydd maent yn cynnig hwylio dingi, cwch pŵer, hwylfyrddio a chaiacio i bob lefel. Mawrth – Hydref. Teithiau Cwch – Cei Newydd Mae teithiau 1 a 2 awr yn rhedeg ar hyd yr arfordir ac yn aml gellir gweld dolffiniaid a morloi.
Cyrsiau Golff
Mae’r cyrsiau golff agosaf yn Saron, Plwmp, Aberteifi a Chaerfyrddin.
Mae gan yr ardal hon gyfran uchel iawn o artistiaid a chrefftwyr, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn swm yr orielau a’r siopau crefftau sy’n gwerthu celf a chrefft unigryw sydd wedi’u gwneud yn lleol. Mae llawer o gynhyrchwyr bwydydd gwych yn lleol hefyd, gyda phwyslais ar ddulliau naturiol, organig a thraddodiadol o gynhyrchu, yn aml mae’r rhain ar gael o giât y fferm (neu leoliad y cynhyrchwyr) a marchnadoedd lleol ynghyd â’r siopau.