Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw anghenion arbennig, neu os ydych chi eisiau trafod unrhyw agwedd ar ein cyfleusterau. Rydym eisiau i’n ymwelwyr fod yn gyfforddus a diogel a byddwn yn eich helpu chi mewn unrhyw ffordd bosibl, neu yn eich cynghori os credwn fod yr eiddo yn anaddas ar gyfer eich gofynion. Mynediad i'r safle
Mae gorsafoedd rheilffordd a bysiau yng Nghaerfyrddin
Mae gennym ddigon o gyfleusterau parcio ar y safle. Mae gan y bythynnod eu lleoedd parcio eu hunain yn ychwanegol at y prif faes parcio ar gyfer y ganolfan. O'r maes parcio mae llwybr addas i gadeiriau olwyn at y plasty a'r gofod digwyddiad a chyfleuster arlwyo newydd. Mae gofodau parcio anabl dynodedig hefyd wrth ymyl pob un o’r adeiladau newydd. Mynediad i'r llety
Mae gan fythynnod Robin, Stable a Heron le i barcio yn union y tu allan i'r drws, ac mae gan y bythynnod eraill le parcio o fewn 10 metr gyda mynediad trwy lwybr gwastad
Bydd rhywun yno i groesawu'r ymwelwyr. Rhowch wybod i ni os oes angen trefniadau arbennig.
Nid oes gan fythynnod Robin a Stable unrhyw risiau o gwbl at eu prif fynedfeydd (agosaf at y lle parcio), ac un gris tua 15cm (6”) yn y cefn.
Mae gan y Longhouse un gris bas iawn wrth y drws ffrynt (tua 5cm/2")
Mae gan Heron un gris (tua 4"/10cm) wrth y fynedfa sydd agosaf at y lle parcio, a dau ris mwy y tu allan i'r drws arall.
Mae gan Duckpond ddau ris (tua 6"/15cm) at ddrws y ffrynt.
Mae’r Coach House Mews yn gyfan gwbl ar y llawr cyntaf, ac mae ganddo risiau serth er mwyn cael mynediad at y llety. Cynllun y llety
Mae bythynnod Robin, Heron a Duckpond ar lefel llawr gwaelod yn gyfan gwbl, heb unrhyw risiau mewnol.
Mae Coach House Mews yn gyfan gwbl ar y llawr cyntaf. Ar ôl mynd i fyny’r grisiau i gael mynediad i'r fflat, nid oes unrhyw risiau pellach o fewn yr ystablau.
Mae gan y Long House ddau allan o bum ystafell wely (y ddau â dau wely sengl), un ystafell ymolchi, y lolfa/ystafell fwyta a'r gegin ar y llawr gwaelod. Rhaid defnyddio'r grisiau i gael mynediad at yr ystafelloedd gwely a’r ystafell ymolchi eraill.
Mae gan y bwthyn Stable gegin, lolfa ac ystafell gawod (dim toiled) ar y llawr gwaelod. Mae’r ystafelloedd gwely a’r ystafell ymolchi i fyny’r grisiau.
Mae gan bob cegin arwynebau gweithio a phentanau o uchder safonol gyda’r poptai oddi tanodd. Gerddi a gofod digwyddiadau/ystafelloedd achlysuron
Mae gan Waunifor bum erw o erddi, ac mae tua dwy ran o dair ar lwybrau gwastad, llydan. Mae amryw seddi a meinciau bob hyn a hyn o amgylch y gerddi lle gall yr ymwelwyr orffwyso.
Mae gan y cyfleusterau neuadd ac arlwyo newydd fynediad cadair olwyn a chyfleusterau toiledau i'r anabl
Cynhelir gweithdai crochenwaith a chrefftau eraill yn ein stiwdio crefftau newydd sydd â mynediad llawn i’r anabl.
Croesawir cŵn gwasanaeth yn y llety ac yn yr holl ddigwyddiadau.