Mae plant wrth eu boddau yn dod i Waunifor boed hynny yn ystod gwyliau’r haf, gwyliau penwythnos neu ar ymweliad. Mae hanes yr ystâd yn dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd a chan hynny mae cenedlaethau o blant wedi archwilio cilfachau’r gerddi, wedi gwneud den yn y llwyni rhododendron, chwarae gyda ffyn yn y nant fach a chasglu concyrs a mes o’r coed mawreddog.
Mae ffens o amgylch yr ardal chwarae a gall gynnig oriau o hwyl gyda phwll tywod mawr, siglen a llithren fach. Bydd eich plant yn mwynhau rhedeg yn yr awyr agored a darganfod y nodweddion diddorol niferus sydd wedi’u cynllunio i blesio plant megis twneli helyg, wigwam, deildai cyll gydag ardal i eistedd a siglen rhaff. Rydym yn weddol ddiarffordd ac wedi’n lleoli ar hyd lôn wledig dawel iawn ac felly yn ddiogel rhag bwrlwm ffordd neu dref brysur ond cofiwch eu goruchwylio drwy'r amser.
Ar ddiwrnod braf mae'n debyg y byddwch eisiau ymweld â thraethau heb eu difetha Bae Ceredigion a mwynhau adeiladu cestyll tywod, nofio yn y môr a bwyta hufen iâ o'r caffis lleol. Mae meysydd parcio, cyfleusterau toiled, siopau a chaffis gerllaw’r rhan fwyaf o draethau a go brin y byddant yn orlawn ym misoedd brig yr haf.
Mae nifer o atyniadau lleol hefyd megis Fferm Fêl Cei Newydd, Canolfan Fforest Law Felinwynt neu Reilffordd Stêm Henllan. Cewch brofi dal tylluanod ac adar ysglyfaethus gerllaw yn Rhos, chwilio am aur ym mwyngloddiau aur Dolaucothi, gweld sut oedd ein cyndeidiau yn byw yn Oes yr Haearn yng Nghastell Henllys. Ar ddiwrnod glawog ymwelwch ag Amgueddfa ar Blentyndod Gorllewin Cymru neu Amgueddfa Wlân Cymru neu'r ffatri siocled ger Caerfyrddin.