Mae’r pum erw o erddir a thir yn cynnig amrywiaeth o ecoleg i'w mwynhau. Mae meinciau derw a byrddau picnic ar draws y gerddi lle cewch eistedd a mwynhau'r amgylchoedd heddychlon a’r golygfeydd hyfryd.
Mae lle i hyd at 40 o geir yn y maes parcio gyda lleoedd ychwanegol ar gael ar draws y safle.
Mae lleoedd parcio anabl wedi’u lleoli ger Neuadd Cedar ac ystafelloedd cyfarfod Rendezvous. Mae gan bob adeilad fynediad a thoiledau i'r anabl.
Gall y stiwdio grefftau a chrochenwaith ar y safle gynnig ystod o weithdai ar gyfer unigolion neu grwpiau. Mae gan y stiwdio fynediad i'r anabl.
Mae llety ar gael ar gyfer digwyddiadau preswyl yn ein 6 bwthyn gwyliau hunanarlwyo. Mae’r rhain oll wedi’u lleoli yn agos at ei gilydd ac o fewn tafliad carreg i’r Ystafelloedd Cyfarfod. Mae gan bob bwthyn ystafelloedd sengl ac ystafelloedd i ddau gyda cheginau, lolfeydd ac ystafelloedd ymolchi i'w rhannu.