Croeso i Waunifor, perl cudd o le, sydd wedi’i leoli mewn pum erw o erddi swynol. Rydym yn cynnig llety gwyliau hunanarlwyo a gwyliau pwrpasol (gan gynnwys crochenwaith a chrefftau) a hefyd yn cynnal cyrsiau dydd, cyngherddau cerddorol a digwyddiadau eraill. Roedd yr adeiladau cerrig hyfryd a’r cyrtiau unwaith yn rhan o ystâd hanesyddol ac mae’r nodweddion hanesyddol niferus a’r cyfleusterau digwyddiadau ecogyfeillgar newydd yn cynnig yr amgylchedd perffaith ar gyfer cyfarfodydd, achlysuron neu briodasau. Pa un a oes gennych ddiddordeb yn ein cyfleusterau dydd neu os ydych chi’n dymuno aros yn ein llety gwyliau heddychlon a thraddodiadol, dyma'r lle i chi.
Gan ein bod yn fusnes bach rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phersonol a gallwn helpu i’ch cyfeirio at leoliadau prydferth, teithiau cerdded, traethau, canolfannau gweithgareddau a mwy. Mae digon i'w gael yn yr ardal: mae arfordir hyfryd Bae Ceredigion 12 milltir i ffwrdd ac mae’n cynnig teithiau cerdded arfordirol hyfryd, traethau heb eu difetha a phentrefi a threfi diddorol. Ynghyd â physgota, cerdded, dringo, beicio a gweithgareddau awyr agored eraill mae amrywiaeth gyfoethog o atyniadau lleol o dan do ac yn yr awyr agored er mwyn i’r teulu cyfan eu mwynhau. Mae’r lleoliad darluniadol sydd wedi’i drwytho â hanes a chymeriad, ynghyd â’r amgylchedd cyfeillgar, yn gwneud y lle hwn yn arbennig iawn. Pam na wnewch chi gysylltu â ni am sgwrs ar yr hyn y gall Waunifor ei gynnig i chi.