Yng Nghanolfan Waunifor mae gennym ystod o ystafelloedd cyfarfod ecogyfeillgar o ansawdd uchel ar gael i'w llogi am rai oriau neu am wythnos neu'n fwy. Wedi ein lleoli ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion rydym yn agos at Landysul a 20 munud o Gaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, 40 munud o’r M4 a 50 munud o Aberystwyth.
Os ydych chi’n chwilio am le i gynnal seminar busnes, sesiwn gweithdy hyfforddi, parti teuluol neu seminar mae gennym ystafell neu adeilad sy’n addas i chi. Gellir darparu ar gyfer yr holl ddigwyddiadau yn unol â’ch gofynion a bydd yr amgylchoedd prydferth a’r gwasanaeth gwych yn helpu i wneud eich digwyddiad redeg yn llyfn.
NEUADD HALL
Lluniau: Neuadd Cedar - tu mewn, Neuadd Cedar - tu allan
Nodweddion:
Llawer o le! Mae’r adeilad yn 30m o hyd ac mae’r brif neuadd yn 1650 troedfedd sgwâr (156m2)
Lle i 40-120
Golau a llachar iawn
Gwres islawr
Golygfeydd hyfryd ar draws y dyffryn
Cyntedd gydag ardal luniaeth
Ardal lofft ganol
Addas ar gyfer:
Hyfforddiant
Gweithdai
Arddangosfeydd
Cyngherddau
Derbyniadau
RENDEZVOUS
Gofod 1300 troedfedd sgwâr hyblyg (121m2)
Lle i 15-80
Ardal feranda ar gyfer toriadau lluniaeth.
Cysylltiad â’r we
Gwres islawr
Golygfeydd hyfryd ar draws y caeau a’r coetir amgylchynol.
Gellir defnyddio’r gegin gyfagos fel caffi/bwyty.
Siop Roddion
Mynediad i'r anabl
Addas ar gyfer:
Gweithdai
Achlysuron cymdeithasol
Darlithoedd a sgyrsiau
Cyrsiau a seminarau
Dathliadau pen-blwydd a phen-blwyddi priodas
Mae gennym ystafelloedd bach hefyd gyda phrisiau yn dechrau o £50 y diwrnod. Rydym bob amser yn barod i drafod ein hanghenion penodol a chreu pecyn ar eich cyfer chi a gallwn gynnig cyfraddau cynrychiolwyr ar gyfer digwyddiadau dydd a phreswyl. Cysylltwch â ni am ddyfynbris.
Argymhellion:
‘Lleoliad gwirioneddol wych, roedd y staff yn barod iawn eu cymwynas’ Sarah, GIG
‘Fe wnaeth eich sylw i’r manylion greu argraff fawr arnaf i a dydw i erioed wedi derbyn cystal gofal’
Annette, Trefnydd Gŵyl Ysgrifennu
‘Roeddem wrth ein boddau yn Waunifor a chafodd y digwyddiad groeso cynnes gan yr holl gyfranogwyr’
Susan, trefnydd gweithdy.