Mae’r pum erw o erddi a thiroedd diarffordd, llety traddodiadol a staff cyfeillgar yn golygu bod Waunifor yn lleoliad hyfryd ar gyfer gwyliau. Mae bryniau gwyrdd a dyffrynnoedd coediog sy’n ei amgylchynu a thraethau heb eu difetha Bae Ceredigion sydd o fewn cyrraedd hawdd yn golygu bod Waunifor yn gyrchfan wych i ddianc iddi. Wedi’i lleoli ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin i'r de (gardd Cymru) a Cheredigion (gyda’i harfordir treftadaeth) i'r gogledd, mae ystod eang o atyniadau lleol a lleoedd i ymweld â hwy ar gyfer y teulu cyfan.
Yn wreiddiol roeddynt yn adeiladau ystâd hanesyddol a bellach mae’r chwe bwthyn gwyliau (yn cysgu dau, pedwar, chwech, wyth a deg o bobl) oll yn adeiladau carreg traddodiadol sydd wedi’u hadfer a’u huwchraddio yn sympathetig i gynnig llety eang, cartrefol a chyfforddus. Mae pob un wedi derbyn gradd 3 seren gan Fwrdd Croeso Cymru, ac mae'r bythynnod hunanarlwyo yn cadw digonedd o’r swyn gwreiddiol ac mae ganddynt wres canolog â'r holl gyfarpar angenrheidiol, a'r rhan fwyaf ohonynt â thân agored neu losgwr coed a phob un a'i gymeriad a’i steil unigryw ei hun. Ceir ardal chwarae ar gyfer plant a siop roddion fach yn gwerthu crefftau, cardiau a byrbrydau ynghyd â golchdy â pheiriannau a weithredir gan ddarnau arian. Mae’r stiwdio grochenwaith a chrefftau ar y safle yn golygu y gallwch chi a’ch teulu roi cynnig ar rywbeth gwahanol yn ystod eich gwyliau. Rydym ar agor trwy gydol y flwyddyn ar gyfer gwyliau, ynghyd â phenwythnosau a gwyliau byr, a gellir archebu bythynnod gyda’i gilydd ar gyfer grwpiau mwy.