Ystabl gerrig wedi’i thrawsnewid yn hyfryd ar gyfer hyd at chwech o bobl…
Mae Bwthyn Stable, fel y mae’r enw'n awgrymu, yn ystablau cerrig wedi'u trosi, ac mae'n cadw rhai nodweddion gwreiddiol, megis cilfachau a oedd yn dal gwellt y ceffylau.
Mae’r Stable yn cysgu chwech o bobl mewn tair ystafell â dau wely sengl, y cyfan ar y llofft. Hefyd ar y llofft y mae ystafell ymolchi gyda baddon, toiled a basn ymolchi. Lawr grisiau y mae ystafell gawod, hefyd gyda basn ymolchi. Ceir cegin/ystafell fwyta eang a lolfa gydag ardal fwyta. Mae gan y lolfa stôf llosgi coed a drysau gwydr dwbl yn agor allan ar batio llechi, yn edrych dros y buarth a'r gerddi. Mae’r bwthyn Stable yn swynol ac yn llawn cymeriad.