Mae Waunifor wedi’i leoli yn Nyffryn prydferth y Teifi ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rydym wedi’n lleoli ar hyd lôn wledig dawel iawn gyda digonedd o deithiau cerdded hyfryd gerllaw a dim ond milltir i ffwrdd o hen lwybr y derwyddon sy’n rhedeg ar hyd afon Teifi.
Mae’r ardal yn boblogaidd gyda physgotwyr, cerddwyr, beicwyr, adaryddion a theuluoedd ac mae’n ysbrydoli artistiaid, ffotograffwyr a chrefftwyr.
Mae amrywiaeth o dafarndai a redir gan deuluoedd gerllaw yn cynnig bwyd ac awyrgylch gwych. Y dref agosaf yw Llandysul (4 milltir i ffwrdd) gydag ystod eang o siopau ac amwynderau gan gynnwys marchnadoedd bach, cigyddion yn gwerthu cig lleol, swyddfa’r post, fferyllfeydd, banciau a siop bwyd parod Indiaidd. Yn Llandysul hefyd y mae cartref canolfan ganŵio'r Padlwyr sy’n cynnal digwyddiadau slalom a chanŵio cenedlaethol yn rheolaidd ac mae ardal chwarae a pharc gwych i blant ynghyd â phwll nofio a chanolfan hamdden.
Y trefi mwy yn yr ardal yw Llanbedr Pont Steffan (8 milltir i ffwrdd), tref Brifysgol hynafol gyda sawl archfarchnad, tafarn, gwesty ac ystod o siopau. Ymhlith y bwytai y mae siop sglodion a physgod buddugol (Lloyds), bwyty Indiaidd a Tsieineaidd ynghyd ag amrywiaeth o gaffis.
Yng Nghaerfyrddin (12 milltir) fe welwch farchnad draddodiadol, sawl archfarchnad fawr (Morrisons, Tesco Extra, Lidls) a’r rhan fwyaf o siopau’r stryd fawr ac yn Aberteifi (16 milltir), ar aber Teifi, y mae detholiad diddorol o siopau bach, canolfan gelfyddydau ac oriel ynghyd â theatr a sinema sydd wedi’u hadnewyddu o’r newydd.
Am wybodaeth ynghylch atyniadau lleol a thraethau cyfagos gweler ATYNIADAU LLEOL/GWYBODAETH AR YR ARDAL.