Waunifor yw’r lle perffaith ar gyfer brecwast priodas rhamantus, mae’r lleoliad yn dawel ac yn heddychlon gyda digon o le i chi a’ch gwesteion fwynhau’r gerddi a’r cefn gwlad.
Mae Neuadd Cedar, ein gofod digwyddiadau 1650 troedfedd sgwâr yn gwbl hyfryd, a newydd ei gwblhau i fanylion uchel gyda ffenestr anferth a llawr pren. Mae’n lleoliad gwych i fwynhau eich bwffe priodas blasus ac yn gyfle i ddawnsio drwy'r nos gyda'ch gwesteion.
Mae llety ar gael ar y safle yn ein bythynnod gwyliau i hyd at 28 o bobl a nifer uchaf y gwesteion yw 100. Dewch i gwrdd â ni ac edrych o gwmpas Waunifor a byddem yn barod i gynnig dyfynbris yn unol â'r math o briodas yr ydych chi'n ei dymuno.