Rydym yn ymfalchïo yn ein bwyd cartref blasus ac yn ymhyfrydu mewn cynnig prydau o ansawdd uchel am bris rhesymol iawn. Gan ein bod yn fusnes bach sy’n ymrwymedig i safonau uchel, rydym yn gweithio gyda phob cleient unigol er mwyn cynllunio bwydlen sy’n unol â’ch cyllideb a’ch gofynion. Mae cawl blasus a bara ffres gyda chaws neu ddetholiad o frechdanau a phlât ffrwythau yn cynrychioli gwerth gwych neu cewch ddewis o ystod lawn o fwffes neu brydau poeth dau gwrs.
Mae’r holl brydau yn cael eu coginio’n ffres ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion naturiol (lleol lle fo’n bosibl) ac maent yn cynnwys dewis llysieuol. Mae prydau fegan neu rydd rhag glwten ar gael, rhowch rybudd o 3 diwrnod i ni.