Anheddau gwreiddiol o gyfrannedd cain yn ystâd Waunifor…
Y Coach House Mews yw’r llety gwreiddiol ar gyfer cerbydwr Ystâd Waunifor a’i deulu a staff. Mae’r bwthyn o gyfrannedd cain, gyda nenfydau uchel ac ystafelloedd mawr. Mae’n adeilad golau ac eang a gall gysgu hyd at wyth o bobl.
Mae llety’r Mews yn gyfan gwbl ar y llawr cyntaf a gellir ei gyrraedd i fyny grisiau gweddol serth. Islaw y byddai’r cerbydau’n cael eu cartrefu.
Mae gan y Mews dair ystafell gyda dau wely sengl a dwy ystafell sengl, a dwy ystafell ymolchi, un gyda chawod, a’r llall gyda baddon a chawod drosto. Mae’r gegin hir â thrawstiau wedi’i chyfarparu’n llawn ac mae ganddi ardal fwyta ar un ochr.
Mae gan yr ystafell fyw gysurus le tân agored er mwyn ategu at y gwres canolog, a darperir rhai boncyffion.
Y tu allan i’r Coach House y mae cwrt gyda lawntiau glas, borderi blodau, gardd berlysiau a byrddau picnic.