Mae Heron yn fwthyn eang gydag ardal fyw fawr a thair ystafell gyda dau wely sengl. Mae’n gyfan gwbl ar y llawr gwaelod (ffenestri to yn perthyn i’r fflat uchod) ac mae’n edrych ar draws lawntiau i’r nant gydag amrywiaeth hyfryd o adar yn y coed amgylchynol.
Mae gan y gegin fawr seddi wrth far brecwast ynghyd â bwrdd ac mae cawod yn yr ystafell ymolchi. Mae’r lolfa yn olau ac yn agored iawn gyda ffenestri i’r cefn ac i’r ochr a’r ffenestr Ffrengig yn agor allan i’r ardd flaen. Mae ardal fwyta ar un ochr a cheir llosgwr coed er mwyn gwneud ymweliadau yn ystod yr hydref a’r gaeaf yn hynod gysurus a chynnes.