Mae Bwthyn Robin yn fwthyn un llawr hyfryd gyda lle i hyd at bedwar o bobl. Mae ganddo dair ystafell wely, un gyda dau wely sengl a dwy gyda gwely sengl. Ceir cawod drydan, basin ymolchi a thoiled.
Yn yr un modd â’n holl fythynnod, mae gan Fwthyn Robin wres canolog drwyddi draw a chegin lawn.
Ceir lolfa/lle bwyta cyfforddus gyda ffenestr Ffrengig yn agor allan i’r lawnt, gyda golygfa ddeniadol draw at y pwll.