![]() |
Hafan||
Oriel||
Gerddi||
Hanes||
Cysylltiadau||
Cysylltu â Ni
|

Crefftau a chrochenauTra’ch bod ar wyliau, gallwch fanteisio ar stiwdio Crefftau a Chrochenwaith hyfryd, golau ac eang Waunifor sydd wedi’i adeiladu i’r diben mewn lleoliad heddychlon a hamddenol. Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar greu eich crochenwaith ei hun, dysgu sut i wneud mosaig, neu greu gemwaith â gleiniau hyfryd, yna mae Gwyliau Crefftau Waunifor yn berffaith i chi. Rydym yn darparu ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau a gallwch archebu unrhyw nifer o sesiynau dwy awr ag y dymunwch yn ystod eich arhosiad. Taflu ar olwyn y crochenydd: Darperir deunyddiau a chyfarpar, felly’r cyfan y mae ei angen arnoch yw eich creadigedd a’ch brwdfrydedd. Hwyl i’r teulu cyfan; gwych ar gyfer aduniadau gyda ffrindiau neu bartïon plu; neu dewiswch hyfforddiant un ac un ac archwilio crefft ddewisol er mwyn ychwanegu at wyliau pleserus - y cyfan tra bydd eich partner yn mwynhau pysgota neu wylio adar! Cynhelir dosbarthiadau crochenwaith wythnosol yn rheolaidd yn y Stiwdio ar gyfer y rheini sy’n byw yn lleol, ynghyd â rhaglen o grefftau eraill a restrir uchod – a gall unrhyw un sy’n aros ar y safle ymuno â’r rhain, os oes lle. Am fanylion pellach ar y crefftau sydd ar gael, a phrisiau ayyb, ewch i http://www.craftybreaks.com. |
|
Datganiad Mynediad || Mapiau a Thrafnidiaeth || Cynlluniwyd y Safle gan Happy Go Digital Ltd. Hawlfraint wedi’i Diogelu gan Waunifor. Cedwir pob hawl 2008.