Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda yn Waunifor oherwydd rydym yn gwybod faint y maent yn mwynhau dod ar wyliau teuluol neu fwynhau gwyliau byr neu benwythnos yn ystod y tymor isel. Bydd eich cŵn yn mwynhau arogli’r holl arogleuon newydd ar hyd y lonydd gwledig tawel a rhedeg ar hyd y llwybrau, teithiau cerdded ar hyd glan yr afon neu trwy goedwigoedd blodau’r gog.
Mae traethau Bae Ceredigion o fewn 25 munud a rhwng mis Medi a mis Mai caniateir cŵn ar y traethau. Yn ystod tymor yr haf mae rhan fwyaf y traethau wedi’u rhannu a chaniateir cŵn ar ran o’r traeth er gallant gael mynediad llawn ar rai ohonynt. Yn ddiweddar agorwyd y llwybr arfordirol yr holl ffordd ar hyd arfordir Ceredigion ac mae’n llwybr hyfryd gyda golygfeydd godidog o Benllyn a mynyddoedd Gogledd Cymru ar ddiwrnod clir. Hwyrach y byddwch yn ffodus ar fin nos neu yn y bore i gael cipolwg ar ddolffiniaid yn chwarae yn y dyfroedd arfordirol neu ddal cipolwg ar forloi yn torheulo ar y brigiadau creigiog niferus.
Codi tâl bach o £10 am y ci cyntaf a £5 am unrhyw gŵn ychwanegol ac rydym yn gofyn i chi lanhau ar ôl eich ci a hefyd sicrhau ei fod ef / hi yn ymddwyn o amgylch gwesteion eraill ac nad yw’n cwrso anifeiliaid fferm. Yn anffodus ni allwn ganiatáu unrhyw rai o’r bridiau ‘cŵn peryglus’.