Dewch i ddarganfod gerddi hudolus Waunifor lle fo rhywbeth i gyffroi ac ymhyfrydu’r synhwyrau ym mhob rhan. Mae’r pum erw yn dapestri hudol yn cyfuno lawntiau a gwelyau blodau gydag ardal goetir, gardd plant, gardd furiog a nant fechan. Trwy gydol y tymhorau mae’r tapestri yn newid gyda chlystyrau o lili wen fach yn goleuo misoedd y gaeaf, ffagl o diwlipau yn arwydd o’r Gwanwyn a chymysgedd gyson o flodau a dail yn ystod misoedd yr haf yn diflannu ar gyfer arlliwiau cyfoethog yr hydref. Mae’r bywyd gwyllt yn doreithiog gyda gwiwerod, cwningod, brogaod, gloÿnnod byw a gwas y neidr oll yn mwynhau’r hafan ynghyd ag amrywiaeth o adar gan gynnwys tylluanod, barcudiaid coch, boncathod, gwenoliaid du a’r hen robin goch.