Roedd Waunifor yn ystâd ffyniannus un tro gyda dros 1000 erw. Y cofnod hanesyddol cynharaf yw anghydfod dros berchnogaeth gyfreithiol mewn cofnodion llys sy’n dyddio o 1605. Erbyn 1760 roedd Waunifor wedi dod yn sedd i deulu Bowen. Fe wnaeth Thomas Bowen, yswain Waunifor adeiladu capel Methodistiaid at ddefnydd y werin leol, yn agos at brif adeiladau’r ystâd. Roedd gan brif deuluoedd Waunifor hanes o waith dyngarol ac elusennol ac roeddynt yn gweithio’n rheolaidd i roi grantiau brys i dlodion, gan helpu i sefydlu cymdeithasau cydfuddiannol a chyfrannu tuag at atgyweirio’r eglwys a phontydd lleol.
Trosglwyddwyd yr ystâd trwy etifeddiaeth i’r Lloyds, roedd Charles Lloyd yn Ynad Heddwch dros Sir Gar a Sir Aberteifi (Ceredigion erbyn hyn) ac yn eglwyswr ymroddedig. Ysgrifennodd ei ddisgynnydd Alistair Lloyd mewn llythyr ‘Waunifor was an old house possibly mentioned by Wordsworth, which has been enlarged from time to time’. Mae’r gerdd ‘Simon Lee’ yn sôn am yr heliwr.
“ In the sweet shire of Cardigan,
Not far from pleasant Ivor-hall,
An old man dwells, a little man, -
‘Tis said he once was tall.
Full five-and-thirty years he lived
A running huntsman merry;
And still the centre of his cheek
Is red as a ripe cherry”