Mae Waunifor wedi’i leoli ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yng Ngorllewin Cymru ac mae 40 munud yn y car o ddiwedd yr M4.
O Gaerfyrddin, ewch ar yr A485 tuag at Lanbedr Pont Steffan. Yn Alltwalis (ychydig ar ôl gorsaf betrol Texaco), trowch i’r chwith i’r B4459 i Bencader. Ewch drwy Bencader a pharhau i Lanfihangel-Ar-Arth. Ewch syth ymlaen yn Cross Inn, i lawr y rhiw, a dros bont gerrig. Ar ôl y bont, cymerwch y troad cyntaf i’r dde, ac i fyny bryn serth. Parhewch ar y ffordd hon (peidiwch â chymryd y fforch i’r chwith) hyd nes i chi ddod at Waunifor ar yr ochr dde, ar waelod y bryn. Y fynedfa i’r bythynnod yw’r ail un y dewch chi ati.
O Lanbedr Pont Steffan, ewch ar yr A485 tuag at Gaerfyrddin. Ewch drwy Lanybydder a Llanllwni, yna trowch ar y B4336 i Lanfihangel-Ar-Arth. Yn Cross Inn trowch i’r dde, i lawr y rhiw, a dros bont gerrig. Ar ôl y bont, cymerwch y troad cyntaf i’r dde, ac i fyny bryn serth. Parhewch ar y ffordd hon (peidiwch â chymryd y fforch i’r chwith) hyd nes i chi ddod at Waunifor ar yr ochr dde, ar waelod y bryn. Y fynedfa i’r bythynnod yw’r ail un y dewch chi ati.
Er mwyn argraffu map a chyfarwyddiadau cliciwch yma: (insert link)
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gorsafoedd Rheilffordd a Bysiau: Caerfyrddin 12 milltir
Mae gwasanaeth bws cyfyngedig yn rhedeg rhwng Caerfyrddin ac o fewn 4 milltir i Waunifor.
Mae tacsis ar gael hefyd.
Maes Awyr Agosaf: Caerdydd: 81 milltir
Waunifor
Maesycrugiau
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA39 9LX
Cyfeirnod Grid: SN460410