Y Coach House Mews yw’r llety gwreiddiol ar gyfer cerbydwr Ystâd Waunifor a’i deulu a staff. Mae’r bwthyn o gyfrannedd cain, gyda nenfydau uchel ac ystafelloedd mawr. Mae’n adeilad golau ac eang a gall gysgu hyd at wyth o bobl. Mae llety’r Mews yn gyfan gwbl ar y llawr cyntaf a gellir ei gyrraedd i fyny grisiau gweddol serth.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach ar y bwthyn hwn>>
Bwthyn Robin - Cysgu 4
Mae Bwthyn Robin yn fwthyn un llawr hyfryd gyda lle i hyd at bedwar o bobl. Mae ganddo dair ystafell wely, un gyda dau wely sengl a dwy gyda gwely sengl. Ceir cawod drydan, basin ymolchi a thoiled. Yn yr un modd â’n holl fythynnod, mae gan Fwthyn Robin wres canolog drwyddi draw a chegin lawn. Ceir lolfa/lle bwyta cyfforddus gyda ffenestr Ffrengig yn agor allan i’r lawnt, gyda golygfa ddeniadol draw at y pwll.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach ar y bwthyn hwn>>
Bwthyn Stable – Cysgu 6
Mae Bwthyn Stable, fel y mae’r enw’n awgrymu, yn ystablau cerrig wedi’u trosi, ac mae’n cadw rhai nodweddion gwreiddiol, megis cilfachau a oedd yn dal gwellt y ceffylau. Mae’r Stable yn cysgu chwech o bobl mewn tair ystafell â dau wely sengl, y cyfan ar y llofft. Hefyd ar y llofft y mae ystafell ymolchi gyda baddon, toiled a basn ymolchi. Lawr grisiau y mae ystafell gawod, hefyd gyda basn ymolchi. Ceir cegin/ystafell fwyta eang a lolfa gydag ardal fwyta. Mae gan y lolfa stôf llosgi coed a drysau gwydr dwbl yn agor allan ar batio llechi, yn edrych dros y buarth a’r gerddi. Mae’r bwthyn Stable yn swynol ac yn llawn cymeriad.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach ar y bwthyn hwn>>
Y Longhouse – Cysgu 9/10
Y Long House yw’r adeilad hynaf sy’n bodoli ar y safle, ac mae wedi’i wneud o gynllun Cymreig traddodiadol, a adeiladwyd tua 1760. Mae’r Long House yn cysgu 10 o bobl mewn tair ystafell gyda dau wely sengl (y mae dau ohonynt ar y llawr gwaelod), un ystafell driphlyg ac un ystafell sengl. Mae dwy ystafell ymolchi (un ar y llofft, ac un lawr grisiau) y ddwy gyda baddon a chawod, a chegin fach wedi’i gosod a’i chyfarparu’n llawn. Mae gan y Long House lolfa gyda thrawstiau ardderchog, gyda stof llosgi coed mewn lle tân pentan, ac ardal fwyta fawr gyda phaneli pren. Y tu blaen i’r bwthyn mae gardd hyfryd gyda byrddau picnic a lawntiau, ac yn y cefn y mae llethr wedi’i llanw â blodau, gyda phatio bach a grisiau cerrig i fyny at yr ardd furiog.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach ar y bwthyn hwn>>
Bwthyn Heron - Cysgu 6
Mae Heron yn fwthyn eang gydag ardal fyw fawr a thair ystafell gyda dau wely sengl. Mae’n gyfan gwbl ar y llawr gwaelod (ffenestri to yn perthyn i’r fflat uchod) ac mae’n edrych ar draws lawntiau i’r nant gydag amrywiaeth hyfryd o adar yn y coed amgylchynol. Mae gan y gegin fawr seddi wrth far brecwast ynghyd â bwrdd ac mae cawod yn yr ystafell ymolchi. Mae’r lolfa yn olau ac yn agored iawn gyda ffenestri i’r cefn ac i’r ochr a’r ffenestr Ffrengig yn agor allan i’r ardd flaen. Mae ardal fwyta ar un ochr a cheir llosgwr coed er mwyn gwneud ymweliadau yn ystod yr hydref a’r gaeaf yn hynod gysurus a chynnes.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach ar y bwthyn hwn>>