Rydym wedi ymweld â llawer o fannau hyfryd ond mae’n arbennig iawn yma. Trueni na ddaethom o hyd iddo flynyddoedd yn ôl! Celia ac Allan
Yr hyn yr oeddem yn ei fwynhau’n benodol ynghylch Waunifor oedd y lleoliad heddychlon, agored. Roedd y bwthyn yn eang iawn (Heron) gyda thân coed hyfryd ac roedd y cyfleusterau’n wych. Nid oedd yr holl leoedd y gwnaethom ymweld â hwy wedi’u gorfasnachu ac roedd yr ardal gyfan heb ei difetha ac a chyflymder araf – newid braf. Roedd rhan fwyaf y lleoedd y gwnaethom ymweld â hwy o fewn ½-1 awr gyda golygfeydd hyfryd ar hyd y ffordd. Teulu Rigby
Roeddem wrth ein boddau gyda’r amgylchoedd tawel, hyfryd. Mae’r safle yn hyfryd ac yn hamddenol ac yn bert ac wedi’i gadw’n dda. Mae’r staff bob amser yn gyfeillgar ac yn barod iawn eu cymwynas ac roeddem yn falch iawn o weld bod y safle yn cael ei redeg ar egwyddorion cynaliadwy. Teulu Bunt
Fe wnaethom fwynhau safle hyfryd Waunifor yn arbennig, mae’r gerddi mor hardd ac mae’n hyfryd ar gyfer plant. Roedd croeso i’n ci hefyd ac fe wnaeth ymdopi’n dda gyda’i wyliau cyntaf erioed. Roedd yn gwerthfawrogi cyfeillgarwch y staff – diolch yn fawr – ac roedd y bwthyn yn lân ac eto cawsom groeso cynnes. Terina & Graham Stevenson a’r teulu
Lleoliad heddychlon a gerddi hyfryd Teulu Bradley
Fe ddaethom o hyd i Waunifor trwy chwilio am fythynnod ‘cyfeillgar i anifeiliaid anwes’ ac roeddem wrth ein boddau gyda’r gwyliau. Roeddem wrth ein boddau gyda’r heddwch a’r tawelwch ac yn gwerthfawrogi’r staff cyfeillgar. Yn wir fe wnaethom ei fwynhau cymaint dyna’r unig fwthyn y byddem yn dychwelyd ato! Lyn & Richard
Fe wnaethom aros yma 20 mlynedd yn ôl ac roedd hi’n anodd credu’r gwahaniaeth erbyn hyn. Mewn un gair ‘GWYCH’. Mae’r newidiadau sydd wedi’u gwneud yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol. Mae Bwthyn Duckpond yn lân, yn olau a phopeth y mae ei angen arnoch ar eich gwyliau. Sandra
Mae’n rhaid i mi ddweud ar ran pawb ein bod wedi cael amser hyfryd ac roeddem yn falch iawn gyda’r amgylchoedd a’r croeso a gawsom. Roedd y Longhouse wedi’i addurno’n braf a chanddo bob teclyn y byddai rhywun ei angen ar eu gwyliau. Rydym yn dychwelyd yr haf nesaf ac yn archebu 3 bwthyn ar gyfer ein teulu estynedig! James a’r Teulu
Roeddem wrth ein boddau gyda’r heddwch a’r tawelwch, y lle a’r gerddi hyfryd a’r agwedd hamddenol. Roedd y bwthyn yn lân iawn ac wedi’i gyfarparu’n dda gyda gwelyau cyfforddus.
Jo a Nick King
Yn gyntaf dymunaf ddiolch i chi am wyliau mor braf – rwyf wedi bod yn dweud wrth bawb amdano, ac rydym wedi bod yn dangos ein creadigaethau (crochenwaith a mosäig a wnaed yn ystod dosbarthiadau yn y stiwdio crochenwaith a chrefftau)! Dyma’r union wyliau yr oeddwn ei angen ar fy nghyfer i a’r merched ac fe wnaethom fwynhau ein hunain yn fawr iawn yn yr amgylchoedd hyfryd. Hilary Pillin
‘Yr hyn y gwnaethom ei fwynhau yn benodol’ – adborth ymwelwyr:
Gerddi heddychlon, tawel a hyfryd
Bwthyn eang, cyfforddus a staff parod iawn eu cymwynas.
Cwbl hyfryd
Roedd popeth yr oeddem ni ei angen yma
Digon o le a chyfleusterau gwych
Hyfryd a thawel
Roedd y lle i gyd yn brydferth gyda nentydd a gerddi hyfryd, caeedig a diogel
Hyfryd a thawel
Roedd y gerddi’n cael eu cadw’n braf iawn ac yn lân gyda’r lawnt wedi’i dorri
Persawrau, gweddau, lliwiau a bywyd gwyllt hyfryd.
Mae’r gerddi’n hyfryd
Roedd y lleoliad tawel braf gyda llety cyfforddus, dosbarthiadau gwneud gemwaith oll yn foddhaol. Yn gyffredinol fe wnaeth y lle greu argraff arnom ni.
Fe wnaethom wirioneddol fwynhau’r cwrs gleiniau a’r lleoliad hyfryd.
Ei leoliad heddychlon a staff cyfeillgar a pharod eu cymwynas.
Taflu’r pot, mi wnes i wireddu uchelgais! Hefyd y safle heb ei ddifetha, awyrgylch hamddenol a staff cyfeillgar. Fe wnes i fwynhau dod o hyd i’r ‘trysorau’ cudd o amgylch y gerddi
Popeth – y crochenwaith, y gerddi, y wynebau cyfeillgar, a’r llonyddwch
Y llety a Waunifor ei hun sydd â theimlad hyfryd i’r lle.
Maint y Coachhouse, a’i gynllun syml. Mae Waunifor ei hun yn lleoliad gydag awyrgylch braf yn y Gaeaf.
Mae’r gerddi’n hyfryd. Pobl hyfryd, teimlad braf a chyfleusterau da.
Bwthyn glân braf (teimlad o gartref oddi cartref) gyda thân coed. Y maes chwarae a’r cilfachau eraill. Staff cynorthwyol a chyfeillgar.
Lleoliad heddychlon, hyfryd. Staff cynorthwyol ond synhwyrol. Roeddwn yn hoffi ethos y lle.
Roedd yn teimlo fel cartref.
Ardal chwarae i blant, lle hyfryd ac wedi’i drefnu’n dda.
Bwthyn ac amgylchoedd hyfryd, staff cyfeillgar iawn.
Eang a thawel, croesawus a chyfeillgar iawn. Diolch yn arbennig am ddod o hyd i geiropractydd.
Yr heddwch a’r tawelwch a’r adar yn canu. Yr ardd hyfryd a’r croeso cyfeillgar iawn a gawsom pan oeddem yno.
Lleoliad hyfryd, cyfle i archwilio a gwneud crochenwaith.